Swyddog Asesu Codau - Contract Tymor Penodol 12 mis - £31,290
Dyddiad Cau:Hanner dydd ar 31 Mawrth 2025.
Y Cyfle
Mae Yolk Recruitment ac Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru wedi dod ynghyd er mwyn dod o hyd i Swyddog Asesu Codau am Gontract Tymor Penodol 12 mis.
Mae'r Ombwdsmon yn gyflogwr delfrydol i'r rhai sy'n chwilio am waith yng Nghymru a thu hwnt, gan ei fod yn cynnig gweithio hybrid a gweithio hyblyg gyda lwfansau gwyliau blynyddol hael, pensiwn y gwasanaeth sifil, DPP ac amrywiaeth eang o fuddion iechyd a lles. Oherwydd natur y swydd hon, rydym yn rhagweld y bydd angen i'r rôl hon ddigwydd o'r swyddfa yn bennaf ar y dechrau.
Mae'r Ombwdsmon wedi ymrwymo i ddarparu cyfle cyfartal ac yn gwarantu cyfweliadau i ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf ar gyfer dethol.
Y Swydd
Mae hon yn swydd i raddedigion felly bydd yn addas i raddedigion diweddar, ac yn ddelfrydol i rai sydd â gradd yn y gyfraith. Chi fydd y pwynt cyswllt cyntaf i aelodau o'r cyhoedd sy'n cysylltu â'r Ombwdsmon a byddwch hefyd yn asesu cwynion sy'n ymwneud â Chodau Ymddygiad:
- Asesu a gwneud penderfyniadau ar gwynion yn ymwneud â Chodau Ymddygiad a ddaw i law yr Ombwdsmon
- Drafftio a chyhoeddi hysbysiadau perthnasol ynghylch penderfyniadau
- Rhoi cyngor ac arweiniad i aelodau o'r cyhoedd
- Diweddaru'r system rheoli achosion
Gofynion
Bydd y Swyddog Asesu Codau llwyddiannus yn bodloni'r rhan fwyaf o'r meini prawf canlynol:
- Gradd berthnasol (yn y gyfraith yn ddelfrydol).
- Y gallu i asesu gwybodaeth gymhleth, gan adnabod materion allweddol yn gyflym wrth ymdrin ag achosion cymhleth er mwyn gwneud penderfyniadau rhesymedig.
- Y gallu i chwilio am ffeithiau, dadansoddi gwybodaeth a gwneud argymhellion cadarn.
- Gallu cryf i addasu i newid a deall gwybodaeth newydd a newidiadau deddfwriaethol yn gyflym.
- Sgiliau gweinyddol a rhyngbersonol rhagorol.
Buddion
Bydd y Swyddog Asesu Codau llwyddiannus yn cael y buddion canlynol:
- Cyflog o £31,290
- Cynllun pensiwn y gwasanaeth sifil
- 32 diwrnod o wyliau blynyddol a gwyliau banc
- Cynllun oriau hyblyg
- Disgownt wrth ddefnyddio'r gampfa a llawer mwy o fuddion.
Ai dyma'r swydd i chi?
Yolk Recruitment yw unig bartner recriwtio'r Ombwdsmon ac felly bydd pob cais yn cael ei reoli gan y tîm yn Yolk gan ddilyn proses recriwtio deg a thryloyw yr Ombwdsmon ei hun.
Gallwch ofyn am becyn ymgeiswyr sy'n cynnwys y Swydd-disgrifiad a Manyleb y Person yn llawn gan Richard Coombs yn Yolk Recruitment.
Gallwch wneud cais yn y Gymraeg neu yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol.