Rydym yn falch o gefnogi Cymwysterau Cymru i benodi Cadeirydd newydd ar eu Bwrdd.
Mae Cymwysterau Cymru (QW) yn gyfrifol am reoleiddio cyrff dyfarnu a sicrhau ansawdd cymwysterau nad ydynt yn raddau a ddarperir yng Nghymru. Mae Cymwysterau Cymru, fel corff statudol annibynnol, mewn sefyllfa dda i sicrhau bod cymwysterau a gynigir yng Nghymru yn diwallu anghenion dysgwyr, cyflogwyr a'r economi.
CC (QW) yw'r prif awdurdod ar gymwysterau yng Nghymru ac mae'n rhoi cyngor proffesiynol i Weinidogion Cymru ar faterion perthnasol yn ogystal â gwybodaeth, cyngor a chymorth i ystod eang o randdeiliaid. Mae'n cyfleu gwerth y cymwysterau a gynigir yng Nghymru i randdeiliaid y tu mewn a'r tu allan i Gymru.
Cyfle Cadeirydd
Penodir Cadeirydd Bwrdd Cymwysterau Cymru (y Bwrdd) gan Weinidogion Cymru ac mae'n gyfrifol am arwain y Bwrdd a phennu'r cyfeiriad strategol i Gymwysterau Cymru a monitro'r broses o gyflawni strategaeth fusnes, cynlluniau a pherfformiad ac amcanion y sefydliad. Er mai'r Bwrdd sydd â'r cyfrifoldeb lefel strategol hwn, mae gan y Prif Weithredwr gyfrifoldeb dros reolaeth weithredol Cymwysterau Cymru o ddydd i ddydd.
Manylion Allweddol
- Lleoliad: Cymru Gyfan - Bydd angen i'r cadeirydd deithio lle mae angen cyfarfodydd wyneb yn wyneb.
- Ymrwymiad amser: 5 diwrnod y mis ar gyfartaledd.
- Hyd y swydd: Penodiad cychwynnol o dair blynedd (uchafswm o chwe blynedd)
- Tâl: £337 y diwrnod (hyd at 7 awr y dydd yn cael ei hawlio yn erbyn cyfradd fesul awr) ac mae gan Gymwysterau Cymru gynllun i ad-dalu treuliau rhesymol, a threuliau eraill yr eir iddynt ar fusnes. Nid yw'r penodiad yn bensiynadwy.
- Dyddiad cau: 18 Ebrill 2025
- Cyfweliadau: Mai/Mehefin 2025
- Dechrau'r penodiad: Ionawr 2026
Crynodeb o Gyfrifoldebau
- Darparu gweledigaeth ac arweiniad strategol i'r Bwrdd.
- Meithrin perthnasoedd gwaith effeithiol â'r Prif Weithredwr a'r Cyfarwyddwyr
- Ffurfio strategaethau'r Bwrdd.
- Sicrhau bod y Bwrdd, wrth wneud penderfyniadau, yn rhoi ystyriaeth briodol i ofynion rheoli statudol ac ariannol, prif nodau a swyddogaethau statudol Cymwysterau Cymru a'i fod yn rhoi sylw i'r holl ganllawiau a chyfarwyddyd polisi perthnasol a ddarperir gan Weinidogion Cymru.
- Sicrhau safonau uchel o reoleidd-dra a phriodoldeb.
- Cynrychioli barn y Bwrdd i'r cyhoedd ac i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg.
- Sicrhau bod holl aelodau'r Bwrdd yn cael eu briffio'n llawn ar delerau eu penodiad ac ar eu dyletswyddau, eu hawliau a'u cyfrifoldebau.
- Pan fydd penodiadau i swyddi gwag ar y Bwrdd yn cael eu gwneud gan Weinidogion Cymru, cynghori Gweinidogion Cymru ar anghenion Cymwysterau Cymru a sut y gallai adlewyrchu amrywiaeth Cymru orau.
- Mynychu adolygiad perfformiad blynyddol, a gynhelir gan Weinidogion Cymru (Gweinidog â Nawdd Cymwysterau Cymru / arweinydd portffolio).
- Sicrhau bod y Bwrdd yn gweithio'n effeithiol gyda QW (y Bwrdd Gweithredol) i ddatblygu strategaeth a chynlluniau busnes corfforaethol sy'n cael eu craffu a'u monitro'n briodol.
- Gan weithio gyda'r Prif Weithredwr, yn ei rôl fel Swyddog Cyfrifyddu, sicrhau bod trefniadau llywodraethiant priodol yn cael eu gweithredu yn unol ag arfer gorau a gofynion corff cyhoeddus.
- Sicrhau bod trefniadau llywodraethiant yn cyflawni'r cyfrifoldebau, swyddogaethau a dyletswyddau cyfreithiol a osodir ar y corff gan Statud.
- Gweithio'n agos gyda'r Prif Weithredwr i sicrhau bod strategaeth sefydliadol berthnasol yn parhau yn ei lle.
Crynodeb o'r Gofynion
- Hanes rhagorol o arweinyddiaeth, trawsnewid sefydliadol a datblygiad ar lefel Bwrdd neu gyfwerth mewn sefydliad cymhleth.
- Diddordeb amlwg mewn addysg a dealltwriaeth o'r system addysg yng Nghymru gan gynnwys dealltwriaeth o anghenion a heriau'r dyfodol.
- Hanes rhagorol o ysbrydoli ac ysgogi staff a rhanddeiliaid sy'n dangos ymagwedd gynhwysol a chydweithredol gan gynnwys gweithio mewn partneriaeth â chynrychiolwyr staff.
- Arwain neu fod yn rhan o'r arweinyddiaeth wrth ddatblygu diwylliannau sefydliadol.
- Gallu eithriadol i gyfathrebu, gan gynnwys trin y cyfryngau a chynulleidfaoedd cyhoeddus ehangach, a meithrin perthnasoedd ar bob lefel. Mae angen sgiliau rhyngbersonol cryf, gan gynnwys y gallu i drafod, perswadio a dylanwadu.
- Hanes o reoli perthnasoedd cymhleth a heriol ar lefel uwch mewn amgylchedd amlranddeiliad.
- Y gallu i sicrhau bod trafodion ariannol y sefydliad yn cael eu cyfrifo'n ddarbodus ac yn systematig, eu harchwilio a'u bod ar gael i'r cyhoedd gan ddangos ymrwymiad i dryloywder a didwylledd.
- Dealltwriaeth o gyd-destun y sector cyhoeddus a dealltwriaeth o egwyddorion bywyd cyhoeddus ac ymrwymiad iddynt.
- Gallu dangos hanes o ymrwymiad i egwyddorion cydraddoldeb ac amrywiaeth a chyflawniad nodedig yn eu herbyn.
Am y cyfrifoldebau llawn, y gofynion a gwybodaeth ychwanegol, dewch o hyd i'r pecyn ymgeisydd llawn ar ein gwefan.
Iaith Gymraeg
Mae'r swydd wedi'i hasesu â sgiliau Cymraeg wedi'u nodi fel rhai dymunol.
Mae Llywodraeth Cymru yn annog ystod eang ac amrywiol o unigolion i wneud cais am benodiadau i gyrff cyhoeddus. Croesewir yn arbennig geisiadau gan bob grwp heb gynrychiolaeth ddigonol, yn y Bwrdd presennol, gan gynnwys y rhai dan 30 oed, pobl o gymunedau lleiafrifoedd ethnig, pobl anabl a'r gymuned LHDTC+.
Gwneud cais
Rydym wedi cael ein cyflogi gan Gymwysterau Cymru i gefnogi'r broses hon, felly byddwch yn ymwybodol mai dim ond cofrestriad o ddiddordeb yw gwneud cais drwy ein gwefan. Os hoffech wneud cais am y rôl hon, ewch i wefan Penodiadau Cyhoeddus Llywodraeth Cymru lle byddwch yn ei gweld yn cael ei hysbysebu ar hyn o bryd.
I wneud cais bydd angen i chi gofrestru a lanlwytho CV a datganiad personol i'w hystyried.