Rheolwr Safonau Gwella a Chwynion - Parhaol - £49,764 - £54,090
Dyddiad Cau: Hanner dydd ar 31 Mawrth 2025.
Y Cyfle
Mae Yolk Recruitment ac Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru wedi dod ynghyd er mwyn dod o hyd i Reolwr Safonau Gwella a Chwynion.
Mae'r Ombwdsmon yn gyflogwr delfrydol i'r rhai sy'n chwilio am waith yng Nghymru a thu hwnt, gan ei fod yn cynnig gweithio hybrid a gweithio hyblyg gyda lwfansau gwyliau blynyddol hael, pensiwn y gwasanaeth sifil, DPP ac amrywiaeth eang o fuddion iechyd a lles. Oherwydd natur y swydd hon, rydym yn rhagweld y bydd angen i'r rôl hon ddigwydd o'r swyddfa yn bennaf ar y dechrau.
Mae'r Ombwdsmon wedi ymrwymo i gyfle cyfartal ac yn gwarantu cyfweliadau i ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf ar gyfer dethol.
Y Swydd
Bydd y Rheolwr Safonau Gwella a Chwynion yn arwain ac yn hyrwyddo Awdurdod Safonau Cwynion i Gymru, gan gydweithio â chyrff allanol i roi gweithdrefnau effeithiol ar waith ar gyfer ymdrin â chwynion yn ogystal â rheoli tîm bach.
- Sicrhau bod Awdurdod Safonau Cwynion yn sefydlu ei hun fel canolfan arferion gorau wrth ymdrin â chwynion.
- Darparu hyfforddiant i gyrff, ochr yn ochr â swyddogion hyfforddi, i wella eu perfformiad wrth ymdrin â chwynion.
Gofynion
Bydd y Rheolwr Safonau Gwella a Chwynion llwyddiannus yn brofiadol yn y rhan fwyaf o'r elfennau canlynol:
- Profiad o reoli llinell, yn ddelfrydol mewn amgylchedd sy'n ymwneud â chwynion neu mewn awdurdod lleol neu yn y sector cyhoeddus ehangach.
- Gallu amlwg i feithrin cysylltiadau gwaith cryf gyda sgiliau rhyngbersonol rhagorol.
- Profiad o ymchwil a dadansoddi ansoddol a meintiol.
- Profiad o gyflwyno hyfforddiant.
- Sgiliau rhagorol o ran cyfathrebu ac ysgrifennu adroddiadau.
Buddion
Bydd y Rheolwr Safonau Gwella a Chwynion llwyddiannus yn cael y buddion canlynol:
- Cyflog o £49,764 - £54,090
- Cynllun pensiwn y gwasanaeth sifil
- 32 diwrnod o wyliau blynyddol a gwyliau banc
- Cynllun oriau hyblyg
- Disgownt wrth ddefnyddio'r gampfa a llawer mwy o fuddion.
Ai dyma'r swydd i chi?
Yolk Recruitment yw unig bartner recriwtio'r Ombwdsmon ac felly bydd pob cais yn cael ei reoli gan y tîm yn Yolk gan ddilyn proses recriwtio deg a thryloyw yr Ombwdsmon ei hun.
Gallwch ofyn am becyn ymgeiswyr sy'n cynnwys y Swydd-ddisgrifiad a Manyleb y Person yn llawn gan Richard Coombs yn Yolk Recruitment.
Gallwch wneud cais yn y Gymraeg neu yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol.